William Griffith, Drws-y-coed Uchaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:01, 30 Tachwedd 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu William Griffith (1719-82) yn ffermio Drws-y-coed Uchaf ym mhen eithaf Dyffryn Nantlle o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadaeth Forafaidd yng Ngwynedd.

Roedd William Griffith yn ymhel â llenyddiaeth yn sylweddol a gohebai â Goronwy Owen a Dafydd Ddu Eryri (David Thomas) ymysg eraill. Ond fe'i cofir yn arbennig am groesawu cenhadon yr athrawiaeth Forafaidd i'w gartref, gyda dynion fel David Williams, David Mathias a John Morgan yn pregethu ar ei aelwyd. Roedd ei briod Alice (1730-1808), a oedd yn ferch Tyddyn Mawr, Llanfihangel y Pennant, hefyd yr un mor frwd â'i gŵr dros ddaliadau'r Morafiaid a rhannai hefyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Bu farw William Griffith 20 Ebrill 1782 ac Alice 6 Mawrth 1808 ac fe'u claddwyd ym Meddgelert. Cawsant fab, a ymfudodd i America, ac wyth merch. Bu pump o'r rheini'n amlwg gyda chenhadaeth y Morafiaid yn Nulyn a Bryste. Daeth un arall o'r merched yn fam i Alicia Evans, a briododd â William Griffith (1801-81). Roedd ef yn enedigol o Lanfaglan a daeth yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr ym Môn.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd at 1940, t.282 - erthygl gan R.T. Jenkins