William Griffith, Llanfaglan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:58, 30 Tachwedd 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Griffith (1801-81), a oedd yn enedigol o Lanfaglan, yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr a chyda chysylltiadau teuluol agos â Griffithiaid Drws-y-coed Uchaf- arloeswyr gyda chenhadaeth y Morafiaid yng Ngwynedd.

Fe'i ganed 12 Awst 1801 yng Nglan-yr-afon, Llanfaglan, yn ail fab John Griffith (1752-1818), a fu'n weinidog eglwys Annibynnol Pendref, Caernarfon am gyfnod maith. Addysgwyd William Griffith yn academi Neuadd-lwyd a Chaerfyrddin ac fe'i hurddwyd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghaergybi, lle bu hyd ei farw gan chwarae rhan bwysig iawn yn hanes enwad yr Annibynwyr ym Môn. Roedd ei fam yn nith i William Griffith (1719-82), Drws-y-coed, a phriododd wedyn ag Alicia Evans, a oedd yn wyres i'r un William Griffith. Priodwyd hwy ym 1843 yng nghapel y Morafiaid ym Mryste. Daeth mab iddynt, Syr John Purser Griffith (1848-1938), yn beiriannydd nodedig yn Iwerddon. Fe'i haddysgwyd yn ysgol Forafaidd Fulneck a Choleg y Drindod, Dulyn. Fe'i hurddwyd yn farchog ym 1911 ac ym 1922 fe'i hetholwyd yn aelod o'r Dail, sef Senedd y Wladwriaeth Rydd Wyddelig (Irish Free State), a ddaeth yn ddiweddarach yn Weriniaeth Iwerddon.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, tt. 277 a 282 - erthyglau gan R.T. Jenkins.>