Jerry Hunter

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:05, 16 Tachwedd 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Academydd a llenor Americanaidd yw'r Dr Jerry Hunter (ganwyd 1965).

Bywgraffiad

Mae'r Dr Jerry Hunter yn dod yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio. Pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati cyflwynwyd llenyddiaeth Gymraeg iddo. Daeth i Gymru ac i Lanbedr Pont Steffan i ddysgu Cymraeg ar gwrs dwys, ac wedyn i Brifysgol Aberystwyth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg.

Aeth yn ôl i Cincinnati a bu yn athro yno, yn gweithio ar fferm ei dad ac yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace. Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ar ôl astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd. Wedyn bu yn ddarlithydd yn Harvard am ychydig cyn dod yn ôl i Gymru.

Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor. Mae o'n Athro y Gymraeg a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor erbyn hyn. Ac yntau wedi uniaethu ei hun efo achosion sydd o bryder i'r gymuned Gymraeg, fo oedd un o'r rhai a sefydlodd grŵp Cymuned, ac fe deithiodd i Genefa ym 2003 i gyflwyno mater diffyg tai a dirywiad y Gymraeg o flaen Gweithgor y Cenhedloedd Unedig ar Leiafrifoedd.[1]

Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson (2000) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd y wobr yn 2004. Enillodd y nofel Gwenddydd y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.[2]

Ar ôl cwrdd â'i wraig, yr actores a'r Cynghorydd Sir Judith Humphreys, fe ymgartrefodd ym mentref Pen-y-groes.[3]

Llyfryddiaeth

Cymraeg

  • Soffestri’r Saeson (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
  • Llwch Cenhedloedd (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
  • I Ddeffro Ysbryd y Wlad: Robert Everett a’r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Ceffylau'r Cymylau (Gwasg Gomer, 2010)
  • Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010)
  • Llwybrau Cenhedloedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012)
  • Gwreiddyn Chwerw (Gwasg Gwynedd, 2012)
  • Ebargofiant (Y Lolfa, 2014)
  • Y Fro Dywyll (Y Lolfa, 2014)
  • Ynys Fadog (Y Lolfa, 2018)

Saesneg

  • Welsh Writing from the American Civil War (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
  • Dark Territory (Y Lolfa, 2018)

Cyfeiriadau

  1. The Free Library, [1], cyrchwyd 16.11.2021
  2. Tudalen Jerry Hunter ar Wicipedia, cyrchwyd 16.11.2021
  3. Gwybodaeth leol