Stôr Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:08, 3 Tachwedd 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Stôr Clynnog yn un o ganghennau Cwmni Cydweithredol yr Eifl.

Yn dilyn agor prif gangen y Cwmni yn Nhrefor, sefydlwyd canghennau yn fuan wedyn yn Llanaelhaearn, Llithfaen a Chlynnog. Sefydlwyd y busnes yng Nghlynnog mewn adeilad sinc a choed ychydig lathenni o dan Westy'r Beuno, lle mae'r lôn yn fforchi am Gapel Uchaf. Gwerthai yr un math o nwyddau cyffredinol â'r brif gangen yn Nhrefor ond ar raddfa lawer llai, ac nid oedd yna adrannau dillad a chigydd yng Nghlynnog. Pan ddaeth Cwmni Cydweithredol yr Eifl i ben ym 1969, gyda'r siop yn Nhrefor yn dod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol y Co-op, caewyd y tair cangen arall yn fuan wedyn gyda nifer o staff yn colli eu gwaith. Ymhen amser agorwyd siop hen bethau yn adeilad Stôr Clynnog a bu'n agored am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, mae'n wag ers cryn amser bellach gyda'r adeilad yn graddol ddirywio.[1]

Cyfeiriadau

1. Gwybodaeth bersonol.