Pont Chatham
Mae Pont Chatham yn croesi Afon Carrog ger ei haber ym mhen uchaf Y Foryd. Mae'n croesi'r ffin rhwng plwyf Llanwnda a phlwyf Llandwrog. Pompren neu bont droed ydyw, yn cysylltu'r lôn sy'n rhedeg heibio fferm Chatham i lawr at yr afon gyda Llwybr y Cob ym mhlwyf Llandwrog. Mae'r bont bresennol yn weddol fodern, ac yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru, ond bu pont yma ers o leiaf 1888, gan ei bod i'w gweld ar fap Ordnans a gyhoeddwyd y flwyddyn honno. Bu rhyd ar draws yr afon yn union i'r de o'r bont, ond mae honno wedi hen ddiflannu.
Ni ddylid cymysgu'r bompren hon gyda'r bont a adeiladwyd gan yr awdurdodau milwrol i gysylltu Gwersyll Chatham â Morfa Dinlle a Maes Awyr yr RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac sydd yn dal yno - er nad oes modd bellach i'r cyhoedd ei defnyddio.