Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:53, 27 Hydref 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl yn fudiad a sefydlwyd yn Nhrefor yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlu siop i brynu a gwerthu bwydydd a dilladau.

Methiant fu ymgais cwmni'r chwarel, y Cwmni Ithfaen Cymreig, i sefydlu siop yn ei adeiladau yn Y Gorllwyn ym 1866 gan iddi gau ymhen 11 mis o ddiffyg cefnogaeth y chwarelwyr. Yn ystod y blynyddoedd dilynol agorodd sawl siop fechan yn y pentref, rhai'n fwy llwyddiannus nag eraill. Fodd bynnag, daeth awydd i sefydlu siop gymunedol a ffurfiwyd pwyllgor i roi'r fenter ar y gweill. Agorwyd y busnes i ddechrau yn 26 Ffordd yr Eifl (neu Farren Street fel roedd bryd hynny) ac yn ddiweddarach symudodd i safle mwy, sef yn nhri thŷ Trem y Môr (neu Sea View fel y'i gelwid yr adeg honno). Yn y blynyddoedd cynnar gwirfoddolwyr fyddai'n gyfrifol am y siop, gyda mwyafrif y cwsmeriaid yn talu am eu nwyddau yn fisol a chael difidend yn ôl faint roeddent wedi'i brynu. Ar y dechrau telid pum swllt yn y bunt o ddifidend gan nad oedd raid talu cyflogau. Ond pan gafwyd rheolwr a staff cyflogedig i weithio yn y busnes o tua 1920 ymlaen, gostyngodd y difidend yn raddol nes oedd yn ddim ond chwe cheiniog yn y bunt erbyn 1969.

Yn y dyddiau cynnar deuai llawer o nwyddau'r siop, neu'r Stôr fel y'i gelwid gan genedlaethau o drigolion Trefor, i'r cei ar longau cwmni'r chwarel, yn ogystal â nwyddau i rai o siopau eraill annibynnol y pentref. Dywed Gwilym Owen yn ei gyfrol Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl[1] fod yna rai yn elyniaethus tuag at y Stôr a bod nwyddau'r Stôr yn cael eu lluchio'n ddiofal i'r wagenni tra cymerid gofal neilltuol gyda nwyddau'r siopau eraill. Beth bynnag y gwir am hynny, mynd o nerth i nerth wnaeth y Stôr gan symud ym 1933 i'w chartref olaf, sef Siop Glandŵr ar Ben Hendra ynghanol y pentref, adeilad a brynwyd oddi wrth Benjamin Roberts. Yno tyfodd yn fusnes sylweddol a hunangynhaliol.Rhannwyd yr adeilad yn ddwy ran, gyda siop fwyd yn un rhan a siop yn gwerthu dilladau a nwyddau tŷ yn y llall. Hefyd agorwyd becws sylweddol yn y cefn ac roedd glo a pharaffin ar werth hefyd. Yn ogystal roedd cigydd yn y siop ac agorwyd lladd-dy newydd ar dir Bryn Gwenith i ddarparu cig i'r Stôr.

Ganol y 1960au adeiladwyd estyniad to fflat modern i'r Stôr a symudwyd y siop fwyd a'r cigydd i'r estyniad hwnnw - lle mae unig siop y pentref erbyn hyn. I wneud lle i'r estyniad dymchwelwyd dau o'r tai cyntaf un i'w hadeiladu gan gwmni'r gwaith yn Nhrefor pan sefydlwyd y pentref ym 1856. Yn y 1960au a'r 70au Miss Lilly Newbold a deyrnasai dros y siop ddillad ac offer tŷ