Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:43, 27 Hydref 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl yn fudiad a sefydlwyd yn Nhrefor yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlu siop i brynu a gwerthu bwydydd a dilladau.

Methiant fu ymgais cwmni'r chwarel, y Cwmni Ithfaen Cymreig, i sefydlu siop yn ei adeiladau yn Y Gorllwyn ym 1866 gan iddi gau ymhen 11 mis o ddiffyg cefnogaeth y chwarelwyr. Yn ystod y blynyddoedd dilynol agorodd sawl siop fechan yn y pentref, rhai'n fwy llwyddiannus nag eraill. Fodd bynnag, daeth awydd i sefydlu siop gymunedol a ffurfiwyd pwyllgor i roi'r fenter ar y gweill. Agorwyd y busnes i ddechrau yn 26 Ffordd yr Eifl (neu Farren Street fel roedd bryd hynny) ac yn ddiweddarach symudodd i safle mwy, sef yn nhri thŷ Trem y Môr (neu Sea View fel y'i gelwid yr adeg honno). Yn y blynyddoedd cynnar gwirfoddolwyr fyddai'n gyfrifol am y siop, gyda mwyafrif y cwsmeriaid yn talu am eu nwyddau yn fisol a chael difidend yn ôl faint roeddent wedi'i brynu. Ar y dechrau telid pum swllt yn y bunt o ddifidend gan nad oedd raid talu cyflogau. Ond pan gafwyd rheolwr a staff cyflogedig i weithio yn y busnes o tua 1920 ymlaen, gostyngodd y difidend yn raddol nes oedd yn ddim ond chwe cheiniog yn y bunt erbyn 1969.