Gwydir Bach a Gwydir Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:24, 26 Hydref 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dwy fferm gymharol fach ar gyrion Trefor yw Gwydir Bach a Gwydir Mawr.

Nid oes gan yr enwau unrhyw beth i'w wneud â "gwydr". Yn hytrach, fel yr eglurir yn Geiriadur Prifysgol Cymru[1], ystyr "gwydir" neu "gwedir" yw tir isel o'i gyferbynnu â "gorthir", sef tir uchel. Gall hefyd olygu gallt neu bant, a all fod yn goediog. Gwelir yr un elfen yn enw Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy. Mae'r enw'n briodol iawn i dirwedd ffermydd Gwydir Bach a Gwydir Mawr. Er bod ffermdai'r ddwy fferm yn sefyll ar dir cymharol uchel uwchben y traeth yn Nhrefor mae eu tiroedd yn mynd i lawr gallt y môr yn serth i'r traeth. Mae'r allt y môr sy'n perthyn i Gwydir Mawr hefyd yn parhau'n goediog ac wedi ei gorchuddio i raddau helaeth â choed helyg. Mae gan y ddwy fferm gaeau uwch yn ymestyn at ffiniau'r pentref ac ar gae'n perthyn i Gwydir Mawr y codwyd rhes o dai cyngor yn y 1950au a'u galw'n Maes Gwydir.

Yn Gwydir Bach y trigai Tom Bowen Jones a'i frawd Robin, y ddau'n feirdd medrus yn y mesurau caeth. Enillodd Tom sawl cadair eisteddfodol a daeth yn fuddugol ar yr englyn i'r "Map" yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri 1968.

Cyfeiriadau

1. Geiriadur Prifysgol Cymru ar-lein (cyrchwyd 26/10/2021).