Pant Du

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:17, 22 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plasty hynafol yw Pant Du, ym Mhenygroes.

Credir iddi ei hadeiladu o gwmpas yr ail ganrif ar bymtheg, ac iddi fod yn gartref i gangen o’r Wyniaid o Lynllifon. Roedd yr aelodau rhain o’r teulu hefyd yn perthyn i deulu Bodfel. Mae arfau William Bodfel wedi ei gerfio mewn pren uchlaw lle tan yn y tŷ.

Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn y 21g yw hyn.

Ffynonellau

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (Penygroes, 1872)