Bet Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:49, 5 Medi 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Awdur a aned ac a fagwyd ym mhentref Trefor yw Bet Jones. Bu'n athrawes o ran ei gyrfa a threuliodd gyfnod sylweddol yn dysgu yn Ysgol y Graig, Llangefni gan ymgartrefu bryd hynny gyda'i phriod a'i dwy ferch yn Rhiwlas. Bellach mae wedi ymddeol ac wedi symud i fyw i'r Bontnewydd.

Ei nofel gyntaf oedd Beti Bwt a gyhoeddwyd yn 2008. Nofel am blentyndod yn y pumdegau a dechrau'r chwedegau yw hon yn dilyn hynt a helynt merch fach yn tyfu i fyny ym mhentref chwarelyddol Yr Hendra, sef yr hen enw ar gymdogaeth Trefor. Er bod rhai digwyddiadau dychmygol ynddi, nofel hunangofiannol yw hon yn ei hanfod wedi ei seilio ar brofiadau'r awdures yn Nhrefor ei phlentyndod. I'r sawl sy'n gyfarwydd â Threfor y blynyddoedd hynny mae'r digwyddiadau a ddisgrifir yn y nofel a'r cymeriadau amrywiol a bortreadir ynddi yn fyw a chofiadwy iawn. Ar ddiwedd y nofel mae Beti Bwt druan yn gorfod gadael ei phentref genedigol a symud gyda'i rhieni a'i brawd hŷn i Lerpwl bell gan fod y Gwaith Mawr (y chwarel ithfaen) wedi cau a'i thad wedi cael gwaith yn Cammel Lairds ym Mhenbedw. Yn dilyn cyhoeddi'r nofel hon cyhoeddodd Bet Jones ddilyniant i Beti Bwt, sef Gadael Lennon, sy'n ymdrin â hanes Beti'n tyfu i fyny'n ferch ifanc ar lannau Mersi mewn awyrgylch dra gwahanol i'r 'Rhendra ei phlentyndod.

Yn 2013 enillodd Bet Jones Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau am ei thrydedd nofel, Craciau. Mae hon yn nofel gyffrous am effeithiau daeargryn ar Ynys Môn a'r dirgelwch sy'n gysylltiedig â'i achosion Mae'n llawn digwyddiadau dramatig sy'n codi cwestiynau am effaith rhai projectau ynni ar yr amgylchedd ac ar fywydau a diogelwch pobl. Yn y nofel down i adnabod nifer o bobl, yn wych a gwachul, y mae'r trychineb hwn yn darnio eu bywydau. Yn dilyn Craciau cyhoeddodd ddwy nofel arall, sef Y Nant a Cyfrinach Craig yr Wylan. Pentref Nant Gwrtheyrn yw lleoliad Y Nant ac mae'n nofel dditectif mewn gwirionedd sy'n ymdrin â llofruddiaeth sy'n digwydd ymysg criw o ddysgwyr Cymraeg yn y Nant pan mae'r lle wedi cael ei gau oddi wrth y byd tu allan gan storm enbyd o eira.

Ei nofel ddiweddaraf yw Perl a gyhoeddwyd yn 2020. Nofel serch hanesyddol ydi hon ac mae'r digwyddiadau ynddi yn symud yn ôl a blaen rhwng Eifionydd a Croatia yn y cyfnod helbulus hwnnw pan oedd yr hen Iwgoslafia yn ymddatod yn nechrau'r 1990au a'r Serbiaid yn ymosod ar Croatia. Mae'n nofel rymus a dirdynnol yn aml gan ymdrin â hen thema oesol, sef y ffordd y mae bywydau pobl gyffredin a diniwed yn cael eu chwalu gan ddigwyddiadau tu hwnt i'w rheolaeth.