Teulu Tan-y-clawdd
"Teulu o dyddynwyr cyffredin anghyffredin oedd teulu Tan-y-clawdd ar lethrau'r Bwlch Mawr ger Clynnog Fawr yn Arfon. Cyffredin am eu bod wedi dilyn yr un ffordd o fyw â'u teidiau a'u cyndeidiau. Anghyffredin am eu bod yn gymeriadau hollol wreiddiol, dirodres, ffraeth a hen-ffasiwn."
Fel yna y dechreuodd Marian Elias Roberts ei llyfr hynod ddifyr ar Deulu Tan-y-clawdd. [1] Yn y llyfr cawn nid yn unig bortread o'r triawd nodedig a fu'n byw a ffermio yn nhyddyn Tan-y-clawdd am dalp da o'r ugeinfed ganrif, sef William a Martha Pritchard a'u hunig ferch, Nan, ond yn ogystal cawn ddarlun byw o'r gymdeithas amaethyddol wledig a ffynnai ar lethrau'r Bwlch Mawr yn ardal Capel Uchaf Clynnog am ddegawdau nes i ddatblygiadau modern a mewnlifiad estronol i'r ardal ei chwalu a'i diwreiddio.