Lottie Ogwen Jones
Cantores enedigol o Drefor a enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd Lottie Ogwen Jones (Thomas yn ddiweddarach) (m.2020). Fe'i magwyd ar aelwyd gerddorol gyda'i mam, a ganai dan yr enw Llinos yr Eifl, yn gantores amlwg mewn cyngherddau ac eisteddfodau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Brawd Lottie Ogwen oedd George Baum a fu'n adnabyddus fel canwr gwerin ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf ail-briododd gan gymryd y cyfenw Thomas ac ymgartrefodd yn Y Ffôr yn ystod ei blynyddoedd olaf. Bu farw yn 2020.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol