Wil Aaron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 23 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Wil Aaron yn arloeswr ym myd teledu annibynnol Cymraeg ac yn awdur. Fe'i magwyd yn Aberystwyth lle roedd ei dad yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol yno. Daeth Wil Aaron i amlygrwydd yn ddyn ifanc fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd rhaglenni teledu. Ffurfiodd gwmni Ffilmiau'r Nant ym 1976, chwe blynedd cyn i S4C gael ei sefydlu. Bu'n gyfrifol am ddarparu rhaglenni dogfen fel Hel Straeon ac Almanac, ynghyd â'r gyfres gomedi boblogaidd C'mon Midffîld. Yn 2016 cyhoeddodd Wil Aaron, sy'n byw yn Llandwrog, gyfrol bwysig a sylweddol, Poeri i Lygad yr Eliffant, sy'n adrodd hanes cyffrous, a dirdynol yn aml, y Cymry hynny a drodd at Formoniaeth yn y 19g ac a adawodd eu mamwlad a mentro ar y daith hir ac enbyd i'r Gorllewin Gwyllt a Dinas y Llyn Halen yn Utah. Seiliwyd y gyfrol ar ymweliadau'r awdur â'r mannau cysylltiedig â'r "Saint Cymreig" ac mae'n gyfrol hanesyddol bwysig yn ogystal â stori antur o'r radd flaenaf.[1] Yn fwy diweddar mae wedi bod yn ymchwilio i hanes y genhadaeth Gristnogol Gymreig ar ynys Tahiti.

Cyfeiriadau

  1. Wil Aaron, Poeri i Lygad yr Eliffant, (Tal-y-bont, 2016); Gwybodaeth bersonol.