Gallt-y-pill
Mae Gallt-y-pill yn fferm yn ardal Penfforddfelen uwchben y Groeslon, ac yn rhan o ystad fechan Llwyn-y-gwalch ym mhlwyf Llandwrog.
Erbyn 1840 roedd y fferm, ynghyd â Llwyn-y-gwalch, yn eiddo i fargyfreithiwr o Gaearnarfon, Frank Jones Walker Jones; Thomas Parry oedd y tenant, yn ffermio 22 erw oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori. Dyma enwau'r caeau: Cae hyll, Cae bwyn, Werglodd mawn, Werglodd big, Cae garreg, Gyto, Cae newydd, Cae Gyto, Cae talcen tŷ, Cae beudy, Werglodd fawr a Werglodd dopiog.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Map a Rhaniad Degwm plwyf Llandwrog