David Thomas Williams (Dafydd Tom)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:09, 7 Gorffennaf 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a llenor a aned yn Nhrefor ar 17 Mawrth 1914 oedd David Thomas Williams (neu Dafydd Tom fel yr adwaenid ef yn lleol). Yn ddyn ifanc cyn y rhyfel bu'n aelod blaengar o'r dosbarthiadau W.E.A. a gynhelid yn Nhrefor gan Cynan, R. Williams Parry, John Gwilym Jones a Wallis Evans, athro Cymraeg Coleg Harlech. Dylanwad pwysig arall arno oedd y seiadau barddol a llenyddol a gai yng nghwmni beirdd eraill o'r pentref, fel William Roberts a Tom Bowen Jones. Ym 1947 aeth i weithio i Wasg y Brython yn Lerpwl, gan ymgartrefu yn Wallasey, gan symud yn ddiweddarach at y Liverpool Daily Post and Echo. Ar ôl ymddeol, ac yntau'n ŵr gweddw erbyn hynny, dychwelodd i fyw i Drefor lle bu hyd ei farw.

Ysgrifennodd nifer helaeth o delynegion, sonedau, englynion, ysgrifau a straeon byrion ac roedd yn gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym 1954 bu'n gyd-fuddugol ar ysgrif "Tanio Cetyn". Hefyd ym 1954 enillodd gadair Eisteddfod Meirion am ei bryddest ar y testun "Y Bont" a phum mlynedd ynghynt, ym 1949, enillodd ei bryddest "Y Chwarel" gadair Eisteddfod Arfon iddo.

Dyma delyneg o'i waith ar y testun "Y Cynhaeaf" a detholiad byr o'i bryddest "Y Chwarel".

   "Y Cynhaeaf"
   Pan oedd yr ŷd yn bendrwm
   A'r haul yn euro'i liw,
   Aeth Wil y gwas â'i bladur
   I feysydd Troed y Rhiw.
   Roedd sisial sych y gyllell
   Yn fiwsig ar ei glust,
   A chyn bo hir roedd cnydau
   Y fferm dan chwip y ffust.
   Bu'r grawn ar lawr y felin
   Bu'r drol yn nôl y blawd,
   A daeth y blawd yn fara
   I fyrddau'r werin dlawd. 
   A phan af weithiau heibio
   I dwr o blantos mân
   Yn prancio ac yn chwerthin,
   A'u cnawd yn fwythus lân,
   Mi gofiaf am gae gwenith
   A'r haul yn euro'i liw,
   A Wil yn gweithio'r bladur
   Drwy'r ŷd yn Nhroed y Rhiw.