Chwarel Tŷ Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:54, 3 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi bychan oedd chwarel Tŷ Mawr, yn agos iawn i dwll Ty'n-y-weirglodd ger Tan'rallt a Nantlle. (SH 4955529).

Roedd gwaith cloddio yno yn yr 1860au, ac roedd o gwmpas 40 o ddynion yn gyflogedig yno yn ystod y cyfnod hwnnw. Erbyn 1882, roedd 20 yn gweithio yno. Tua 1900, fe llyncodd Chwarel Nantlle Vale gyfagos. Cafodd ei chau tua 1910, fel nifer o'r chwareli/tyllau llechi bychan eraill yn yr ardal,[1] ar ôl iddi gael ei phrynu gan Chwarel Dorothea[2]. Bellach mae'n cael ei ddefnyddio fel arllwysfa gwastraff statig a diwenwyn gan Gwmni Watkin Jones, a chwalwyd bron y cwbl o'r hen adeiladau chwarel.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 332.