Robert Ellis (Llyfnwy)
Ganed Robert Ellis, a gymerodd yr enw barddol "Llyfnwy", yn Penrhyn Bach, Llanllyfni ym 1806 yn fab i Ellis Dafydd a'i wraig Ann. Cyfansoddodd nifer o garolau a cherddi moesol a chyhoeddwyd casgliad bychan ohonynt dan y teitl: Lloffion Awen Llyfnwy; sef Carolau, Cerddi ac amryw Ganiadau moesol. Gan Robert Ellis, Clochydd, Llanllyfni. Prin ryfeddol ydi canmoliaeth Myrddin Fardd i'r casgliad - rhyw gerddi diddrwg-didda oedden nhw yn ei farn ef. "Nid oes ynddo ddim yn wrthwynebus, na dim ynddo yn ddeniadol", meddai Myrddin am y llyfryn. Beth bynnag, roedd Robert Ellis yn un o nifer o glochyddion eglwysig a drodd eu llaw at farddoni yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw 14 Ebrill 1872 a nodir ar ei garreg fedd iddo fod yn glochydd eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni, am 43 o flynyddoedd ac iddo wasanaethu mewn 2,556 o angladdau.[1]
Cyfeiriadau
1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, tt.65-6.