William John Davies (Glan Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:15, 27 Mehefin 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed ef ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym Mhen-y-groes. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau cyn gorffen ei yrfa fer yn weinidog ar eglwys Brynaerau ger Pontlyfni. Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." [1] Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn Cymru.[2]

Cyfeiriadau

1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.35-6. 2. Cymru, Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.