John Roberts, Archddiacon Meirionnydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:20, 25 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed yr Hybarch John Roberts M.A. yn ffermdy Hafod-y-Wern ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1729. Hanai o deulu uchelwrol ond prin yw'r wybodaeth amdano ond llwyddodd i fynd i Brifysgol Rhydychen lle'r enillodd radd M.A. Fe'i penodwyd wedyn yn rheithor Boduan ac, yn ddiweddarach, yn rheithor Llanbedrog ac yn Archddiacon Meirionnydd. Roedd ganddo fywoliaeth eglwysig segur ym Môn hefyd. Treuliodd weddill ei ddyddiau yn Llanbedrog lle bu farw ar 7 Awst 1802 yn 73 oed. Mae ei fedd i'w weld ym mynwent yr eglwys.[1] Gweler hefyd yr erthygl ar John Roberts, Hafod-y-Wern, yn Cof y Cwmwd am wybodaeth bellach am ei hynafiaid.

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.314