John Evans, Clochydd Llanfaglan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:18, 25 Mehefin 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Clochydd plwyf Llanfaglan tua chanol y ddeunawfed ganrif oedd John Evans. Dywed Myrddin Fardd yn ei gyfrol Enwogion Sir Gaernarfon iddo fethu â darganfod unrhyw wybodaeth am y dyn yma, heblaw fod dwy gerdd foeswersol o'i waith wedi cael eu hargraffu yn Amwythig (lle'r argreffid llawer o lyfrau Cymraeg bryd hynny), y naill ym 1747 a'r llall ym 1751. "... Cerdd yn rhoi hanes dau o gymdeithion hawdd eu hebgor, sef cenfigen a'r cybydd" yw'r gyntaf, tra bo'r llall yn rhoi hanes haint yn lladd holl anifeiliaid gŵr a gwraig o Sir Gaerwrangon (Worcestershire), ac fel y bu i'r wraig regi Duw am eu hanffawd gan achosi i'w sefyllfa waethygu ymhellach. Mae'n amlwg nad oedd gan Myrddin fawr o feddwl o'r caneuon, oherwydd mae'n dweud "mai hanes yn y modd mwyaf trwstan a llipa, ar lun mydr, mewn iaith glogyrnog a charpiog ydynt". [1]

Cyfeiriadau

1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, tt.75-6.