Edmund Francis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:58, 24 Mehefin 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd Edmund Francis. Dywed Myrddin Fardd yn Enwogion Sir Gaernarfon iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf Llanwnda, ond yn yr erthygl arno yn Y Bywgraffiadur Gymreig dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786. Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes.