Capel Pisgah (BN), Carmel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:35, 24 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capel Pisgah, a godwyd ym 1878, yn gapel y Bedyddwyr Neilltuol ym mhentref Carmel. Mae'r adeilad yn Lôn Batus. Y mae mynwent rhwng y capel a'r ffordd. Caewyd y capel tua chanol y 20g., ac ers ryw 30 mlynedd mae wedi cael ei ddefnyddio fel mynachdy.[1] Enw'r adeilad bellach yw Mynachdy Sant Sior a Sant Ioan, sydd yn gangen o Eglwys Gatholig Uniongred America. Un mynach sydd wedi cynnal y sefydliad yng Ngharmel ers y dechreuad, ac am rai blynyddoedd yr oedd Capel Cilgwyn (A) yn rhan o'r sefydliad, wedi'r capel hwnnw gau fel achos yr Annibynwyr.

Ni ddylid cymysgu'r capel hwn a chapel yr Annibynwyr o'r un enw oedd yn y pentref, Mae'r adeilad hwnnw tua 200 llath i ffwrdd ar brif stryd y pentref, ac wedi ei droi'n fflatiau preswyl ers rhai blynyddoedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 24.6.2021