Melin-y-Cim

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:11, 24 Mai 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Melin ŷd oedd Melin-y-Cim, ychydig gannoedd o lathenni'n nes at y môr a phentref Pontlyfni na'r bont. Ceir cofnod o felinydd Melin-y-Cim ar ddechrau'r 19g, sef Robert Prichard,a fu farw ym 1832. Roedd ganddo eiddo (rhwng anifeiliaid, cert a dodrefn) a brisiwyd fel eiddo gwerth £47.5.0d. Bu farw ei weddw, Ann Prichard (Williams gynt) ym 1850 ac mae'n amlwg iddi hi barhau â'r gwaith am gyfnod; roedd ganddi sawl mab a nhw efallai a fu wrthi yn y felin. Ymysg ei heiddo pan bu farw, roedd ganddi mesuau ŷd, cloriannau a phwysau, yn ogystal â hobed o wenith. Roedd ar bobl £10 am ŷd a werthwyd ganddi.[1]. Ymddengys, fodd bynnag, ei fod wedi rhoi'r gorau i'r felin ddeng mlynedd cyn hynny: yn ôl y Map Degwm a'r Rhestr Bennu gysylltiedig, William Roberts oedd y tenant erbyn 1840 - a'r Parch. Hugh Rowlands yn berchennog.[2]

Ym 1865, William Roberts oedd tenant y felin ynghyd â 9 acer o dir. Miss Jane Rowlands oedd y perchennog.[3]

Mae mapiau Ordnans 1888, 1899, 1920 a 1948 i gyd yn dangos y felin fel yn sy'n dal i droi. Roedd ffrwd felin yn cario dŵr i'r olwyn.

Mae'n eiddo bellach i Gymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni, [4] a drowyd yr adeilad yn fythynnod haf ym 2008-9, gan ei ehangu'n sylweddol. Roedd yr olwyn ddŵr ar dalcen yr adeilad lle mae balconi wedi ei osod erbyn hyn. Mae hen fwthyn y melinydd yn sefyll o hyd, mewn gardd ty arall gerllaw.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor B/1832/66; B/1850/96
  2. Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Clynnog Fawr [1], cyrchwyd 24.5.2021
  3. Llyfr rhenti Clynnog Fawr, 1865
  4. Gwefan y Gymdeithas: http://www.sgll.co.uk/page60.html. Gwlir yno luniau o'r felin fel mae hi'n ymddangos heddiw.
  5. Comisiwn Henebion Cymru: Coflein