Ffatri Wlân Clynnog
Safai Ffatri Wlân Clynnog ym mhentrefan Tai Lôn. Mae'n sicr ei bod hi wedi ei sefydlu erbyn 1850,[1] ac yr oedd hi'n dal i weithio tua 1910. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau yn adeg honno gan blant Ysgol Ynys-yr-arch yn ei hunangofiant:
Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriannau.[2]
Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.[3] Dyddia'r bil o 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc i'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd Melin Faesog gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma