Ffatri Wlân Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:45, 24 Mai 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Ffatri Wlân Clynnog ym mhentrefan Tai Lôn. Roedd hi'n dal i weithio tua 1910. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau Ysgol Ynys-yr-arch yn ei hunangofiant:

Cawsom hefyd fynd i wwld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriananau.[1]

Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.[2] Dyddia'r bil o 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc i'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd Melin Faesog gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd.

  1. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), t.24
  2. Sophia Pari-Jones, Echoes from a Water Wheel" (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29