Y Berth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:18, 20 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Berth yw'r fan lle cyfarfu'r ffordd dyrpeg gynt o gyfeiriad Clynnog Fawr trwy bentref Tai'n Lôn a'r hen ffordd fawr trwy bentref Llanllyfni i gyfeiriad Pant-glas, ychydig i'r de o dai Pont-y-Crychddwr. Hyd heddiw ceir yno ffermydd Tyddyn-y-berth ac Efail-y-berth, a lle addas ddau gan mlynedd yn ôl ar gyfer gefail oedd cyffordd rhwng dwy o ffyrdd pwysicaf y fro. yn nogfennau Cyfrifiad 1841, sonnir am "Berth" yn lle Tyddyn-y-berth, a "Rhefal". Owen Williams, gof 28 oed oedd yn byw yn yr Efail, ond roedd o'n ffarmio hefyd. Yn y Berth, roedd William Roberts, ffermwr 69oed yn byw; ac hefyd yn y Berth, roedd Owen Williams (arall), ffermwr 30 oed. Rhwng yr Efail a'r Berth y pryd hynny yr oedd tŷ tyrpeg, "Turnpike Berth" lle roedd Catherine Williams, 44 oed, yn byw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau