Pandy Hen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:01, 8 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pandy Hen yn sefyll ar lan ogleddol Afon Crychddwr yn ardal Nebo. Bellach, mae'n enw ar dŷ ond mae'r enw'n tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol - er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf manwl yr Arolwg Ordnans yn yr ardal gymryd lle, a hynny tua 1888. Safai nid nepell o Frithdir Isaf a Llwydcoed Fawr ym mhlwyf Llanllyfni. Roedd pandai'n fath arbennig o felin a ddefnyddid i orffen defnyddiau gwlân wedi iddynt gael eu nyddu. Mae map Ordnans 1888 yn dangos olion ffrwd felin ger y pandy hwn.

Ychydig islaw'r nant, sef Afon y Felin yr oedd pandy arall a oedd yn gweithio ym 1851.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851