Brynllidiart

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:24, 8 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Brynllidiart uwchben Dyffryn Nantlle bellach yn furddun, ac yn bur ddiarffordd. Eir ato trwy gymryd Lôn Tyddyn Agnes (rhwng Llanllyfni a phentrefan Tan'rallt at ben draw'r tarmac ger tyddyn Bryn-gwyn. O'r fan hyn y mae cychwyn ar hyd llwybr Cwm Silyn, ond i fynd i Frynllidiart, cedwir yr ochr uchaf i wal y mynydd lle bu ffordd drol unwaith. Mae Brynllidiart i'w weld ar draws tri chae tra chorsiog ac er y nodir llwybrau cyhoeddus ar fapiau Ordnans, maent i gyd wedi diflannu a llinell rhai wedi'u blocio gan ffensys gwifren bigog.

O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd. Mae waliau'r tŷ wedi dadfeilio i raddau er y gellid o hyd gweld mai tŷ deulawr oedd o. Wrth yr adwy lle bu'r drws gwelir plac llechen a osodwyd yno yn 2021 i nodi mai dyna gartref R. Silyn Roberts a Mathonwy Hughes, ei nai - dau brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol. Brynllidiart yw'r unig gartref yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu mwy nag un prifardd.

Canodd Mathonwy Hughes englyn milwr i'w hen gartref:

"Tir pell y diadelloedd,
Darn di-werth a driniwyd oedd,
Ond Eden i'm tad ydoedd."


I'w Barhau