Capel Saron (A)
Mae Capel Saron yn sefyll yn rhan isaf plwyf Llanwnda, ac mae'r pentref sydd wedi tyfu o'i gwmpas wedi mabwysiadu'r enw Saron. Mae'r capel yn perthyn i'r Annibynwyr.
Cychwynnodd yr achos gan William Hughes, Brynbeddau, ffermwr sylweddol yn y plwyf, a gafodd ysgogiad crefyddol wrth wrando ar bregethu yng Nghapel Caernarfon rywbryd ar ôl 1790. Dechreuodd yr arferiad o gynnal cyfarfodydd i bregethu yn y Graigwyllt, plwyf Llanfaglan, ac o dipyn i beth fe dyfodd gynulleidfa yno ond bu raid iddynt symud wedi i'r tirfeddianwyr gelyniaethus lleol fynnu bod y rhai a aeth yno'n malu cloddiau ac ati, a phregethu ar dir comin yn y plwyf hwnnw am ryw bum mlynedd. Cafodd alwad rywbryd i gynnal gŵylnos mewn tŷ hen ddynes a oedd newydd farw ar dir y Pengwern, ac o hynny ymlaen, cynhaliodd gyfarfodydd ym mhlwyf Llanwnda, mewn tŷ a'r enw Tros-y-lôn,a logwyd at y pwrpas gan ffermwr fferm Pont-faen. Tyfodd y niferoedd yno, cychwynnwyd ysgol Sul, a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddïo a phregethu.
Wedi i rai blynyddoedd fynd heibio, teimlwyd fod angen adeilad mwy a sicrhawyd prydles ar gornel o dir comin Rhosysgawen lle codwyd capel a thŷ gweinidog. Symudodd William Hughes yno, gan roi ffermio heibio a gweithio fel gweinidog yr achos. Digwyddodd hyn yn fuan ar ôl 1812.
Erthygl ar ei hanner