Afiechydon yn Uwchgwyrfai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y canrifoedd o'i blaen, yn gyfnod pan oedd afiechydon yn ysgubo drwy'r tir a llawer o bobl yn marw'n eithriadol o ifanc o'i gymharu â'r hyn a welir y dyddiau hyn. Roedd meddygaeth hefyd yn elfennol iawn, er y gwnaed rhai darganfyddiadau o bwys yn ystod y ganrif. Fodd bynnag, roedd darganfyddiadau megis gwrthfiotigau, a fyddai'n arbed miliynau o fywydau, ymhell ar y gorwel. Fel ym mhob ardal arall, gwelwyd afiechydon cyffredin yr oes yng nghwmwd Uwchgwyrfai ac un ffynhonnell bwysig o wybodaeth am glefydau'r oes, a'r dulliau a ddefnyddid i geisio eu gwella, yw dyddiaduron Eben Fardd (Ebenezer Thomas) o Glynnog. Roedd y clefydau a ymosododd arno ef a'i deulu yn eu cartref ym Mod Gybi, rhwng tua 1830 a 1863, pan fu Eben farw, yn nodweddiadol o'r afiechydon a wynebai gymdeithas yn gyffredinol. Ac roedd yr heintiau hynny'n codi eu pennau'n gyson - oherwydd ceir cyfeiriadau at ryw anhwylder neu'i gilydd (rhai yn fwy difrifol nag eraill) ar bron bob tudalen o'r dyddiaduron.
Hyd yn oed cyn iddo ddod i fyw i Glynnog ym 1827 roedd Eben yn hen gyfarwydd ag afiechyd. Collodd ei fam pan oedd yn ifanc a dihoenodd ei lys-frawd hŷn am flynyddoedd cyn marw ym 1822. Er na ddywedir beth yn union oedd natur ei glefyd, mae'n debygol mai'r hen elyn bryd hynny, sef y dicïau, a'i cipiodd. Dywed Eben i'w lys-frawd fod yn orweddiog am gyfnodau maith o 1816 ymlaen ac iddo farw yn ei freichiau mewn poenau mawr. Yna, ym 1823 aeth Eben ar daith dros y ffin i Lerpwl, Manceinion a rhai mannau eraill yn Sir Gaerhirfryn. Dywed iddo gael crachod a chornwydydd ("scabs and boils" chwedl yntau yn Saesneg ei ddyddiaduron) enbyd ar y daith honno oherwydd diffyg glendid a bod y rhain yn dal i'w boeni flwyddyn yn ddiweddarach.
Bu'n bur wael ei iechyd wedyn y flwyddyn y symudodd i fyw i Glynnog i gadw ysgol, sef ym 1827. Cafodd bwl o'r cryd (ague) fis Mai'r flwyddyn honno a bu'n bur gwla tan ganol haf. Erbyn 1831 roedd wedi priodi â Mary, merch Cae'r Pwsan ar gyrion Clynnog, ac yng Ngorffennaf y flwyddyn honno roedd y ddau ohonynt yn hynod wael gyda'r ffliw - a dywed ei fod yn rhemp drwy'r wlad bryd hynny. Mae'n amlwg fod y ffliw yn beth pur ddieithr iddo oherwydd mae'n nodi fel a ganlyn - "it seems to be what is called Influenza". Fodd bynnag, erbyn mis Hydref y flwyddyn honno roedd gelyn gwaeth o lawer na'r ffliw hyd yn oed ar gerdded drwy wledydd Prydain, oherwydd y 26ain o Hydref cofnoda'r bardd fod y "Cholera Morbus" wedi torri allan yn nhref Sunderland.
Anhwylder arall cyffredin y cyfeirir ato'n gyson yn y dyddiaduron yw cur pen enbyd, ac roedd Mary'n dioddef oddi wrth hwnnw'n gyson. Dridiau cyn y Nadolig 1831 aeth Eben i Gaernarfon i geisio meddyginiaeth iddi rhag y cur gan un Dr Rees. Cafodd botel o ffisig ganddo a edrychai fel llefrith, gyda chyfarwyddyd i'w wraig gymryd 2 lond llwy fwrdd bob 3 awr. Mae'n ymddangos iddo wneud y tric oherwydd dywed Eben ei bod yn llawer gwell ar ôl y dos cyntaf. Tybed beth ydoedd?
Am ganrifoedd lawer bu'r frech wen yn elyn marwol a byddai llawer a fyddai'n dod dros ei hymosodiadau yn aml wedi eu creithio'n ddifrifol ganddi. Ond diolch i frechiad y cowpog, a ddarganfuwyd ym 1796 gan Edward Jenner, erbyn degawdau cynnar y 19g roedd llai yn cael eu heintio gan y frech wen a doedd teulu Bod Gybi ddim yn eithriad. Dywed Eben i'w ferch hynaf, Elin, gael ei brechu ar 9 Ebrill 1832 a chafodd yntau ei hun ei frechu rai blynyddoedd yn ddiweddarach, a hynny gan y meddyg John Pugh o Goch-y-big. Ni chafodd Elin druan ei harbed rhag y frech goch, fodd bynnag. Bu'n ddifrifol wael ohoni yn Awst 1835 ac wrth gwrs nid oedd brechlyn rhag y frech goch ar gael am flynyddoedd wedi hynny.
Anhwylder arall y cyfeirir ato'n aml yn y dyddiaduron yw llid ar y llygaid a llefrithod. Roedd Catherine, ei ail ferch, yn cael trafferthion yn aml gyda'i llygaid ac ym mis Mawrth 1836 roeddent yn llidiog iawn ac wedi cau. Cynghorwyd Eben gan lawfeddyg a adwaenai i geisio gelod (leeches) i'w rhoi ar ei harleisiau i sugno'r gwenwyn o'r gwaed, a hefyd cafodd ddŵr petalau rhosod gan Dr Hughes o Bwllheli i olchi llygaid y plentyn a phowdr iddi ei gymryd ddwywaith yr wythnos. (Diddorol nodi bod defnyddio gelod mewn triniaethau meddygol yn ailddechrau dod yn gyffredin eto'r blynyddoedd hyn.) Mae'n ymddangos iddi wella'n raddol ar ôl hyn er i'r aflwydd ddod yn ôl i'w phoeni ar adegau. Roedd Eben ei hun hefyd yn dioddef oddi wrth lid y llygaid yn aml - does ryfedd ac yntau'n darllen a sgrifennu cymaint wrth olau gwan cannwyll neu lamp.
Roedd Mary, ei wraig, yn dioddef yn weddol aml hefyd oddi wrth ffitiau a llewygfeydd. Yn aml iawn byddai'r ffitiau hyn yn para am tua chwarter awr cyn iddi ddechrau dod ati ei hun ac mae'n ymddangos mai rhyw ffurf ar epilepsi oedd natur ei chyflwr. Yna ar 4 Mehefin 1844 bu trychineb ym Mod Gybi pan fu John Jones, llanc ifanc o Lanberis a oedd yn ddisgybl yn ysgol Eben ac yn lletya gyda'r teulu, farw mewn ffit epileptig ac nid oedd modd gwneud dim i'w achub. Codwyd Eben o'i wely am 3.30 y bore wrth glywed cynnwrf mawr a bu'r llanc farw mewn poenau enbyd rhyw bedair awr yn ddiweddarach.
Arfer cyffredin iawn yn y 19g oedd gwaedu cleifion a ddioddefai oddi wrth wahanol anhwylderau - triniaeth sy'n swnio'n enbyd i'r eithaf i ni'r dyddiau hyn. Yn Rhagfyr 1837 dywed Eben fod Mary wedi bod yn wael ers tair wythnos ac iddo fynd i weld William Roberts, llawfeddyg yng Nghaernarfon, yn ei chylch. Cynghorodd hwnnw iddi gael ei gwaedu ar unwaith gan y gallai oedi achosi niwed i'r iau a'i lladd. Daeth un Owen Evan i Fod Gybi i gyflawni'r driniaeth a thynnodd dros 17 owns o waed o fraich Mary. Nid yw'n syndod deall iddi fod yn wan iawn yn hir wedyn.
Prin a chyntefig oedd darpariaeth ddeintyddol yr adeg honno hefyd. Tynnid dannedd heb unrhyw fath o anesthetig ac yn aml byddai'n well gan lawer ddioddef y boen na chael tynnu dant. Roedd gweld pobl gymharol ifanc yn ddi-ddannedd yn gyffredin. Ar 1 Mai 1839 gwelodd Eben hen gydymaith ysgol iddo, sef Owen Roberts, ym Mhen-y-groes, a sylwodd pa mor hen yr edrychai wedi colli ei ddannedd - nid oedd ond tua 38 oed. Ar 24 Hydref y flwyddyn honno aeth Eben yntau i gael tynnu dant gan un Mr Davies ym Mhen-y-groes. Disgrifia ei hun yn eistedd ar lawr a'i ben rhwng cluniau Davies wrth i hwnnw dynnu'r dant gyda gefail. Roedd wedi yfed dogn helaeth o wisgi cyn y driniaeth i leddfu'r boen. Eto, wythnos yn ddiweddarach roedd ganddo ddannodd drachefn! Y flwyddyn ganlynol wedyn cafodd dynnu dant yng Nghaernarfon a dioddef yn enbyd. Roedd Mary hithau'n aml yn cael problemau dannedd a deintgig llidus. Ceir mwy nag un cofnod am feddygon yn galw ym Mod Gybi i agor ei deintgig i dynnu'r crawn ohonynt, neu roi gelod arnynt i sugno'r gwaed drwg.
Roedd rhai o gyfeillion a chydnabod Eben Fardd hefyd yn dioddef oddi wrth anhwylderau difrifol. Un o'r rhain oedd y bardd Dewi Wyn o Eifion (David Owen), a oedd yn ffermio yn Y Gaerwen ar gwr y Lôn Goed. Ceir cofnod maith gan Eben yn ei ddyddiadur ar 8 Medi 1838 yn croniclo ei ymweliad â'r Gaerwen i weld Dewi a oedd mewn cyflwr enbyd ar y pryd. Roedd Dewi'n ymddangos bron yn lloerig gan ddweud fod ei nerfau'n llawn stêm a phowdr bron a byrstio o'i gorff. Dywedai bod ei ben yn teimlo'n ofnadwy o drwm, fel pe bai am rwygo'r gobennydd pan geisiai gysgu. Yn ddiweddarach aeth Dewi Wyn cyn belled â Llundain i weld meddygon, a chafodd triniaethau enbyd yno ond i ddim diben. Mae'n debyg ei fod yn dioddef oddi wrth dyfiant ar yr ymennydd a bu farw ym 1841 yn 56 oed. Ym 1838 drachefn, cofnoda Eben i ddyn ifanc ym Mrynhafod, Clynnog farw "of the prevailing fever raging in this neighbourhood for the last 12 months". Nid yw'n ymhelaethu beth ydoedd.
Ar un achlysur fe gafodd Elin ymosodiad o'r hyn a elwir yn dân iddew (erysipelas), sy'n weddol debyg i'r eryr ac mae'n ddiddorol nodi'r driniaeth a gafodd ato. Aeth Eben â hi i weld hen wraig ym Mhontlyfni a dull honno o geisio gwella'r cyflwr oedd anadlu, neu'n hytrach chwythu a phoeri, ar y croen dolurus. Dywed Eben iddo fynd â hi ddwywaith at yr hen wraig. Roedd meddyginiaethau gwerin fel hyn yn dal i gael eu defnyddio mae'n amlwg, ac mewn cofnod arall yn Chwefror 1844 dywed Eben fod ei dad-yng-nghyfraith yn wael iawn a'i fod wedi mynd i Lanllyfni "to get him some quack medicine for curing the colic".
Mae'n ymddangos mai Catherine, yr ail ferch, oedd y fwyaf bregus ei hiechyd drwodd a thro ac yn Chwefror 1845, a hithau tua 11 oed, cafodd lid yr ymennydd gyda meddyg yn aros gyda hi bron drwy'r nos ar un achlysur. Hi hefyd oedd y gyntaf o'r teulu i farw. Erbyn 1855 roedd yn dioddef o'r "madredd" (gangrene), a oedd wedi ymosod ar yr ymennydd mae'n amlwg. Dioddefodd yn ddychrynllyd am dri mis gan fynd yn bron yn gwbl ddall erbyn y diwedd. Bu farw ar 28 Mai yn 21 oed.
Erbyn canol y 1850au mae dyddiaduron Eben Fardd yn dod i ben i bob pwrpas, ond dirywio ymhellach oedd iechyd y teulu ym Mod Gybi. Rhwng 1858 a 1861 bu farw Mary, y ferch ieuengaf, Elizabeth, a'r unig fab, James Ebenezer. Bu marwolaeth James, yn llanc ifanc addawol 18 oed, yn ergyd arbennig o drom i Eben Fardd. Bu Eben yntau farw ym mis Chwefror 1863 yn 61 oed. Yr hen elyn marwol, y dicïau, oedd achos eu marwolaeth, gan ymledu o un i'r llall drwy'r cartref. Elin, y plentyn hynaf, oedd yr unig un a oroesoedd ei rhieni a bu hithau farw o'r un afiechyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn ei 30au cynnar, gan adael nifer o blant ifanc ar ei hôl. [1]
Cyfeiriadau
1. Seiliwyd y sylwadau uchod ar wybodaeth a geir yn nyddiaduron Eben Fardd. Gweler y gyfrol Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, E.G. Millward (gol.) (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).