Teulu Huddart

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:58, 26 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu ym Mlas Bryncir, ar ôl ei brynu ym 1809. Cafodd "Mr Huddart of Brynkir" ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.[1] Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad, a hynny wedi iddo wneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.[2]

Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd Ystad Glynllifon ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;[3], a phrynodd Chwarel Dorothea dir cynefin defaid yng Nghwm Silyn.[4] Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a ganiatawyd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.[5] Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.[6]

Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611
  2. Gwefan Festipedia, [1], cyrchwyd 26.11.2018
  3. Archifdy Gwynedd, XD2/6773
  4. Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.
  5. Archifdy Caernarfon, XD40/26/11
  6. Jim Hewett, The Huddart Family, FR Heritage Journal rhif 93 (2008).