Eglwys Crist, Pen-y-groes
Yn wreiddiol, codwyd adeilad haearn fel eglwys i wasanaethu Pen-y-groes, a'i alw'n Eglwys Crist.
Codwyd yr Eglwys Crist bresennol ym 1890 yn lle'r hen adeilad haearn sinc. Gwaith y pensaer eglwysig Henry Kennedy ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo ei dylunio. Yr adeiladydd oedd R.R. Williams, Caernarfon.[1] Rhoddwyd y safle'n wreiddiol gan berchnogion Ystad Bryncir, sef Teulu Huddart, a'r llechi ar y to'n rhodd gan deulu Assheton-Smith, Ystad y Faenol.[2] Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Fonesig Puleston 16 Awst 1890, a'i gwr, Syr John Puleston, AS yn annerch. Bu Côr yr Eglwys yn canu, i gyfeiliant [[Band Pres Pen-y-groes.[3] Nid yw'n glir pam y cafodd Puleston ei ddewis i wneud hyn, heblaw am y ffaith ei fod yn Gymro, yn amlwg gyda'r Eisteddfod ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn Geidwadwr a fyddai'n gwrthwynebu Lloyd George yn yr etholiad nesaf![4] Gwadodd Puleston mai am resymau gwleidyddol yr oedd yn annerch y dorf, ond yn hytrach roedd yn ymhyfrydu mewn cael cymryd rhan mewn digwyddiad amholeticaidd. Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes cyn cymud at safle'r eglwys gerllaw. Ymysg y dorf niferus yr oedd un o brif noddwyr yr adeiladu, John Robinson, Plas Tal-y-sarn.[5]
Mae'n ail eglwys ym mhlwyf Llanllyfni, a saif llai na milltir i'r gogledd o'r eglwys honno, nid nepell o Neuadd Goffa Pen-y-groes.[6] Gyda phum capel anghydffurfiol cyfagos, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at y tai newydd nag eglwys Llanllyfni. Gwasanaethai curad plwyf LLanllyfni gynulleidfa Eglwys Crist a phlwyfolion y rhan amgylchynol o blwyf Llanllyfni, ac ar adeg agor yr eglwys newydd, y Parch. R. Hughes oedd curad Pen-y-groes. Cyn ei ddyddiau ef, Parch. Hughes arall oedd y cyrad cyn iddo symud i fod yn reithor Y Bermo.[7]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma