Plas Dorothea
Mae Plas Dorothea yn dŷ mawr ar gyrion Chwarel Dorothea, ger Sarn Wyth-dŵr yng nghanol chwareli Dyffryn Nantlle. Erbyn hyn, mae'n cynnig llety ar gyfer criwiau o ymwelwyr. Yn wreiddiol, fodd bynnag, roedd yn dŷ ar gyfer rheolwr Chwarel Dorothea.
Mae nifer o ysgrifenwyr Saesneg wedi cymysgu rhwng Plas Dorothea ac olion Plas Tal-y-sarn sydd ar ochr ogleddol y chwarel.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma