Iwan Wyn Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:22, 21 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Iwan Wyn Parry yn canu gyda Chôr Bro Meirion

Ganed Iwan Wyn Parry yn Llanymddyfri ym 1965, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar ôl mynychu Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle, cafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau.[1]

Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, un o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi hynny cafodd ail yrfa fel unawdydd bas, ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y Meseia. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran.[2] Enillodd gystadleuaeth Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1996.[3] Mae hefyd yn arweinydd côr ym Meirionnydd, sef Côr Bro Meirion.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Gwefan BBC Cymru'r Byd, [1], cyrchwyd 21.3.2021
  3. Gwefan Cymdeithas Gorawl Llanelwy, [2], cyrchwyd 21.3.2021