Iwan Wyn Parry
Ganed Iwan Wyn Parry yn Llanymddyfri ym 1965, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar ôl mynychu Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle, cafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau.[1]
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, un o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi hynny cafodd ail yrfa fel unawdydd bas, ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y Meseia. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran.[2] Enillodd gystadleuaeth Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1996. international young singer of the year at Llangollen International Eisteddfod in 1996.[3] Mae hefyd yn arweinydd côr ym Meirionnydd, sef Côr Bro Meirion.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma