Lleu
Lleu yw enw papur bro ardal Dyffryn Nantlle, ac fe'i cyhoeddir yn fisol. Lleu, neu Lleu Llaw Gyffes i roi iddo'i enw llawn, oedd y prif gymeriad, neu'r arwr, yn chwedl Math fab Mathonwy, sef pedwaredd gainc chwedlau'r Mabinogi. Ef, wrth gwrs, a roddodd ei enw i Nantlleu - a ddaeth yn Nantlle yn ddiweddarach. Ceir erthygl helaethach ar Lleu Llaw Gyffes yn Cof y Cwmwd.