Bryn Fôn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:59, 16 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwladgarwr, canwr ac actor Cymraeg|Cymreig yw Bryn Fôn (ganed 1954 yn Llanllyfni). Mynychodd Ysgol Llanllyfni ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynd ymlaen i astudio ymarfer corff ac astudiaethau'r amgylchedd yn y coleg. Dechreuodd ei yrfa yn y byd adloniant gan gymryd rhan yn yr opera roc Dic Penderyn ym 1977. Ffurfiodd y grŵp Crysbas ar ôl gadael y Coleg, a ffurfiodd Sobin a'r Smaeliaid ym 1988.

Ef oedd yr artist cyntaf i chwarae'n fyw ar BBC Radio Cymru ym 1977.[1] Bu'n rhannol gyfrifol am ehangu poblogrwydd pop Cymraeg ymysg ieuenctid Cymru.

Mae o wedi chwarae rhannau amlwg ar y teledu, yn cynnwys yr eiconig Tecwyn yng nghyfres C'mon Midffild. a rhan yn fwy diweddar yn Pobl y Cwm.

Wedi i'r ymgyrch llosgi tai haf ddechrau yn Rhagfyr 1979, ysgrifennodd Bryn Fôn gân yn bychanu ymdrechion aflwyddiannus yr heddlu i ddal y rhai a oedd yn gyfrifol. Ym 1990 disgynnodd sawl ditectif ar ei dŷ ac arestiwyd ef ynghyd a'i bartner, Anna, wedi iddynt ganfod pecyn wedi'i guddio yn un o'r waliau ar dir ei dyddyn. Delwyd ef yn swyddfa heddlu Dolgellau am 48 awr cyn cael ei ryddhau heb gyhuddiad. Arestiwyd cyd-aelod cast C'mon Midffild!, Mei Jones ar yr un adeg.[2]

Mae'n dal i fyw yn Nyffryn Nantlle. Mae bellach wedi priodi, ac yn dad i ddau o blant. Roedd ei dad-yng-nghyfraith, Michael Wynn Williams, yn berchennog Chwarel Dorothea cyn i honno gau. Mae ei wraig, Anna Wynn Williams yn arlunydd a bu i'r ddau redeg oriel gelf am gyfnod byr mewn adeiladau ar eu tyddyn.

Ysgrifennwyd llyfr Sobin a'r Smaeliaid ym 1996 gan Marlyn Samuel, Cyhoeddiadau Mei, ISBN 9780852841167.

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Bryn Fôn yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[3]

Cyfeiriadau