Llion Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:28, 22 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Penodwyd Llion Dwyryd Huws yn brifathro Ysgol Trefor yn 2017, gan olynu Cai Larsen yn y swydd. Magwyd Llion Huws ar fferm Mynachdy Bach yn ardal Brynengan yn Eifionydd (y fferm lle treuliodd y bardd nodedig Robert ap Gwilym Ddu ei flynyddoedd olaf). Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Mae wedi ymgartrefu gyda'i deulu ym Mhorthmadog ac mae'n rhedwr ac athletwr brwd.