Ysgol Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:12, 21 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol gynradd pentref Trefor wrth droed Yr Eifl a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878.[1]

Perchnogion yr ysgol oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, Chwarel yr Eifl ar fynydd Garnfor, y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd John Evan Williams, brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, Winifred Williams, yn wreiddiol o'r un ardal.

Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith.

Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd Benjamin Owen Jones, brodor o Fethesda oedd yn brifathro ysgol Dwyran ym Môn. Bu'n brifathro Ysgol Trefor hyd ei ymddeoliad yn haf 1913.

Prifathrawon ers hynny[2] oedd Robert Lloyd Jones (1913-28), yr awdur enwog; Morris William Jones (1928-46), Thomas Elias Parry (1946-67), Harold Parry Jones (1967-1978), Geraint Jones (1978-1997), Cai Larsen (1997- 2016), Llion Huws (2017 -


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Jones, Geraint Rhen Sgwl - Canmlwyddiant Ysgol Trefor 1978. (Llyfrau Bro'r Eifl Trefor, 1978) t. 17
  2. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Trefor (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/126 [1878-1979]