Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:43, 19 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dilynodd Thomas John Wynn (1878-1957), ei frawd hŷn fel y 5ed Arglwydd Newborough wedi i hwnnw farw ym 1916 o ganlyniad i afiechyd a ddaliodd tra'n gwasanaethu yn Ffrainc gyda'r Gwarchodlu Cymreig.

Bu'n briod deirgwaith: yn gyntaf, â Vera Evelen Mary Winch o Down Hall, Swydd Dorset, 1907-1938; cawsant un ferch, Yr Anrh. Stella Maria Glyn Wynn (1908-1977).

Wedi ysgariad ym 1938, priododd â Denisa Josephine Malpuech (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch, yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n debutante ac a briododd Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.

Trydedd gwraig Thomas John Wynn oedd Katherine Rudkin Murray, merch Henry Stephen Murray, Melbourne, Awstralia. Fe briododd y ddau fis Awst 1947, a bu'r Arglwyddes Newborough hon fyw tan 1979, mewn tŷ ar gornel ystâd Glan Beuno yn y Bontnewydd wedi iddi golli ei gŵr ym 1957 - bu farw hwnnw yn Sain Pancras, Llundain.

Etifeddodd Thomas John Wynn Ystad Glynllifon wedi i'w ewythr, yr Anrh. Frederick George Wynn farw ym 1932.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau