William Charles Wynn, 4ydd Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:34, 19 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Etifeddodd William Charles Wynn (1873-1916) y teitl "Arglwydd Newborough" ar farwolaeth ei daid, y 3ydd Arglwydd ym 1888. Ei dad oedd yr Anrhydeddus Thomas John Wynn (1840-1878), mab hynaf y 3ydd Arglwydd Newborough; ond bu hwnnw farw o flaen ei dad (a fu byw nes ei fod yn 85 oed). Roedd ei fam, Sybil Anna Catherine Corbett (1854-1911), yn ferch i ddiplomydd Prydeinig, ac fe'i ganed yn Washington DC.

Ni chafodd Ystad Glynllifon fel etifeddiaeth, heblaw am ychydig o dir ym Mlaenau Ffestiniog, ond yn y fan honno yr oedd gwir werth yr ystad erbyn i'w daid farw ym 1888, gan fod dwy o chwareli llechi mwyaf y Blaenau yn eiddo iddi. A'r cyfan roedd angen i berchennog y chwareli ei wneud oedd eu gosod ac wedyn derbyn breindal o hyn a hyn y dunnell o bopeth a gynhyrchid, heb orfod gofidio am broblemau a threuliau rhedeg ystâd wledig arferol.

Priododd â Grace Carr, Americanes o Kentucky, ym 1900. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1903.

O ganlyniad i natur ei etifeddiaeth, fe wnaeth ei gartref yn Ffestiniog ac mae wedi ei gladdu yno mewn claddfa breifat. (Erbyn hyn, fodd bynnag, gellir mynd at ei fedd trawiadol sydd ar gyrion pentref Llan Ffestiniog. Mae ar ben bryncyn bychan ac oddi yno ceir golygfeydd godidog o fynyddoedd Meirionnydd i bob cyfeiriad, ac islaw mae Dyffryn Maentwrog ac aber y Ddwyryd a'r Traeth Bychan. Draw i'r gorllewin wedyn gwelir gwastadedd Eifionydd a bryniau Llŷn. Roedd wedi dewis y llecyn hwn fel man ei gladdu flynyddoedd ynghynt, meddir.) Bu'n farw'n ifanc, ac yn ddi-blant, wedi iddo ddal oerfel ar y Ffrynt Gorllewinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, lle gwasanaethodd fel Liwtenant yn y Gwarchodlu Cymreig.

Fe'i dilynwyd gan ei frawd iau, Thomas John Wynn, (1878-1957).[1]



Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cracroft's Peerage, [1], cyrchwyd 18.2.2021