Afon Gopr
Afon Gopr yw'r hen enw a arddelid gan drigolion y dyffryn am y darn o Afon Llyfni o'i tharddiad nes iddi lifo i mewn i Lyn Nantlle Uchaf. Dichon mai oherwydd y ffaith fod yr afon yn llifo heibio i fwynfa Gwaith copr Simdde'r Dylluan, gan fagu lliw copr o wastraff y gwaith, y cafodd yr enw ei fabwysiadu. Oherwydd yr halogi a achosid gan y mwynau a ddeuai o'r gwaith i mewn i'r dŵr nid oedd yr un frithyllen yn gallu byw yn yr afon. Enw arferol y rhan hon o'r afon bellach yw Afon Drws-y-coed.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma