Clogwyn y Barcut
Clogwyn y Barcut yw enw'r clogwyn uwchben, ac i'r de o, bentref Drws-y-coed, ac ar lethr ogleddol mynydd Y Garn. Ar ei uchaf, mae'r mynydd hwn yn 347 metr uwchben lefel y môr. Yn uchel ar ddwy ystlys y clogwyn y mae olion tyllau treialu am fetelau, a chopr yn fwy na thebyg, yn dyddio'n ôl i ganol y 19g. o leiaf. Mae'r ddau dwll tua 8 metr o hyd.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma