Penybont, Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:21, 10 Chwefror 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Penybont, Bontnewydd yn dŷ ar lan Afon Gwyrfai a'i dalcen ar un pen i bont y pentref, sef Y Bont Newydd. Mae wedi bod yn gragen ers bron i hanner can mlynedd ond yn ddiweddar iawn mae o'n cael ei adnewyddu'n llwyr. Arferai'r adeilad fod yn ddwy siop, un yn siop dilledydd a'r llall, a gedwid gan Ann Owens yn gynnar yn y 20g., yn gwerthu diodydd pefriog a fferins. Cofiai Evie Glyn Roberts o dai Pentreuchaf ei bod hefyd yn gwerthu halen, ac yn ei dorri oddi ar lwmp solet ar y cownter gyda lli wedi ei gwneud allan o lechen.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn, Colofn Hanes, Lleu, rhif 524 (Tachwedd 2020), t.13