Teulu'r Darbishires

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:32, 9 Chwefror 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Patriarch teulu cefnog a dylanwadol y Darbishires, fu'n rheoli chwareli ithfaen Trefor a Phenmaen-mawr am flynyddoedd maith, oedd Samuel Dukinfield Darbishire, gŵr Mary (nee Blackmore). Priodwyd y ddau 10 Hydref 1825. Ganwyd Samuel ar yr 28ain o Chwefror 1796 yn Bolton-le-Moors, swydd Gaerhirfryn yn Lloegr, yn fab i Robert a Sarah Kay Darbishire (1774-1817). Roedd Robert Darbishire (1769-1840) yn fab i James Darbishire (1729-1790) ac Anne Dukinfield (1732-1802), a'r James hwn yn fab i Samuel Darbishire (1695-1748) a Rebecca Crompton (? - 1737).

Roedd S.D.D. yn gyfreithiwr llwyddiannus a chefnog yn ninas Manceinion ac yn gyfreithiwr Cwmni Rheilffyrdd Caer a Chaergybi,a Swyddi Caerhirfryn ac Efrog. Roedd â chefndir teuluol mewn cloddio am lechi yng Nghymru. Yn grefyddol, Undodwr ydoedd ac yn un o ymddiriedolwyr Capel Cross Street ym Manceinion. Dyna pryd a phle y daeth yn gyfaill mynwesol i William Gaskell. Bu'n un o sylfaenwyr allweddol Coleg Newydd Manceinion yn ogystal ag Athenaeum Manceinion sydd heddiw'n rhan o Oriel Gelf Dinas Manceinion. trigai'r teulu yn Greenheyes. Samuel oedd sefydlydd ac adeiladydd Ysgol Chorlton ym 1836.

Enillodd ei fab hynaf, Robert Dukinfield, ryddfraint Dinas Manceinion ym 1899 am ei waith dyngarol. Trwy etifeddu rhan o gyfoeth Syr Joseph Whitworth, fe sefydlodd Robert Barc ac Oriel Gelf Whitworth, a sefydlodd ei wraig, Harriet, y Manchester High School for Girls. Trigai Robert a Harriet ym Mharc Fictoria.

Ffrind mynwesol i wraig Samuel, oedd Elizabeth Gaskell, y nofelydd poblogaidd a gwraig William Gaskell, a byddai'r pedwar yn treulio gwyliau'n aml gyda'i gilydd yn Llundain neu yn ail gartref y Darbishires 'yn y wlad'. Y tŷ hwn oedd Pendyffryn, Dwygyfylchi, rhwng Penmaen-mawr a Chonwy.

Bu farw yng Nghonwy ar y 5ed o Awst, 1870, a'i gladdu yn Eglwys Dwygyfylchi.

Cafodd Samuel a Mary 13 o blant :

  PLANT                              EU GWRAGEDD
  Robert Dukinfield   1826-1908      Harriet Ann Cobb
  Marianne            1827-1853      Edward Rigby
  William Arthur      1829-1916      Ellen Taylor
  Russel              1830-1831      marw'n faban
  Vernon              1832-1878      Marie Biller
  Louisa              1834-1911      Samuel Smith travers
  Emily               1836-1837      marw'n faban
  Emily               1837-1857      marw'n ifanc
  Sarah Agnes         1839-1917      dibriod
  Francis             1841-1881      Elsa Kate Todhunter
  CHARLES HENRY       !844-1929      Mary Lillian Eckersley
  Samuel Dukinfield   1846=1892      Florence Eckersley
  Mary                1847-1848      marw'n faban