Craig y Farchas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:31, 8 Chwefror 2021 gan 86.134.19.185 (sgwrs)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y mae Craig y Farchas yn glogwyn ar ben gorllewinol mynyddoedd Yr Eifl, uwchben tir pori a elwid y Farchas, a oedd yn rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map Degwm ym 1839.[1] Y pryd hynny nid oedd unrhyw waith chwarelu am ithfaen wedi dechrau yno. Fodd bynnag, erbyn 1844 roedd gwaith cynhyrchu setiau (setts) ar raddfa fach wedi dechrau yn yr Hen Ffolt o dan Graig y Farchas, ac ym 1854 sefydlwyd Chwarel Craig y Farchas ei hun dan oruchwyliaeth John Hutton drwy agor dwy bonc ar ochr y clogwyn. Erbyn hyn, mae'r ponciau hynny wedi diflannu dan y Domen Fawr o wastraff o Chwarel yr Eifl uwchlaw, er y credir bod rhan o'r uchaf o'r ddwy bonc yn dod i'r golwg yn dilyn cario tunelli o wastraff o'r Domen Fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Gweler yr erthygl helaethach ar Chwarel Craig y Farchas, Trefor yn Cof y Cwmwd.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. LLGC Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn, 1839