Charles Stephen Darbishire

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:50, 6 Chwefror 2021 gan Helfa (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Charles Stephen Darbishire oedd mab ieuengaf (1886-1971) Charles Henry Darbishire a'i wraig Mary Lilian (Eckersley gynt). C.S. Darbishire oedd rheolwr Chwarel yr Eifl o 1918 hyd 1946, a dywedir mai "cyflogwr a berchid yn fawr" ydoedd.

Ymunodd fel swyddog yn y fyddin ym 1917, ac arweiniodd y fintai filwrol chwarelyddol gyntaf i'w ffurfio, sef Cwmni 329 Chwarelydda'r Peirianwyr Brenhinol. Aeth â'r fintai i weithio Chwarel Haut Banc yn Ffrainc i ddiwallu'r alw am setiau er mwyn adeiladu ffyrdd oedd eu angen ar y fyddin yn Ffrainc a Fflandrys. Roedd 1000 o ddynion yn y fintai, llawer ohonynt yn chwarelwyr Penmaenmawr a Threfor. Adawodd y fyddin gyda safle fel Cadben yn swyddogol yn Ionawr 1919, gan ddod yn reolwr Chwarel yr Eifl yn syth wedyn, yn dilyn ôl troed ei dad.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd C.S. Darbishire yn Is-gapten ym Mintai Adeiladu Cyffredinol Penmaenmawr.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor, Catalogue Papurau Ychwanegol Darbishire, [1], cyrchwyd 5.2.2021