Chwarel Craig y Farchas, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:42, 4 Chwefror 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel Craig y Farchas oedd y chwarel go iawn gyntaf agorwyd ar fynydd Garnfor yn Nhrefor, er bod y Gwaith Setiau (setts) cyntaf wedi bod yn weithredol ar ben yr allt-môr is-law ers 1844 yn yr Hen Ffolt.

Erbyn 1854 roedd y cerrig rhyddion (cerrig tir) a gloddid yn Hen Ffolt y Gorllwyn wedi eu dihysbyddu bron yn llwyr. Rhaid, felly, oedd edrych i'r mynydd ei hun am ffynonellau newydd o'r garreg ithfaen. Craig y Farchas uwchben fu'r dewis amlwg, ac ar Galan Mai 1854 llofnodwyd, ar ran y Cwmni Ithfaen Cymreig (The Welsh Granite Company), brydles newydd 21 mlynedd ac agor chwarel newydd o ddwy bonc rhyw 90 metr uwchlaw lefel y môr. Hon oedd Chwarel Craig y Farchas oedd, ar un wedd, yn estyniad i Waith Setiau'r Hen Ffolt is-law. NID hon oedd Chwarel yr Eifl a ddaeth i fod rhyw 12-13 mlynedd yn ddiweddarach, sef y chwarel y gwyddom ni amdani ac a welir ar y mynydd heddiw.

Agorwyd y gyntaf o ddwy bonc ar Graig y Farchas, wedi ei lleoli uwchben Pant y Farchas a rhan o Allt Eithin Nant Bach, gan edrych i lawr at Cerrig Mawr traeth y Gorllwyn a'r rhigol lle byddid yn cario cerrig yr Hen Ffolt i longau a angorid yn y dwfn. Goruchwyliwyd y cyfan gan y fforman, Trefor Jones.

Chwarel fechan oedd hi ac ers blynyddoedd maith aeth y ddwy bonc o'r golwg dan y Domen Fawr o'r chwarel ddiweddarach ar graig Cae'r Foty (Chwarel yr Eifl / Y Gwaith Mawr). Ni cheid cerrig rhyddion yma wrth gwrs, a byddai'n rhaid saethu'r graig i gael cerrig i'w tyroi'n setiau.

Cludid y setisau o'r ddwy bonc i lawr inclên fechan, ond peryglus o serth. Nid rhaffau gwifrau fel yn ddiweddarach a ddefnyddid i ollwng y gwagenni llawnion, ond cadwyni trymion. Roedd gan y cadwyni hyn gymaint o sŵn fel y'u clywid yn aml o'r Hendref ei hun, dros filltir i ffwrdd.

Ond nid hynny oedd y gŵyn fwyaf amdanynt. Roeddent yn beryg bywyd! Gallai John Hutton adrodd ym mhwyllgor y Cyfarwyddwyr (16 blynedd yn ddiweddarach) fod y cadwyni hyn yn torri'n aml - bod y dolenni'n torri gyda'r canlyniad fod damweiniau'n digwydd, damweiniau, meddai, i'r wagenni (!) er bod dynion yn cael eu lladd hefyd.

Yn ystod blynyddoedd cynta'r unfed ganrif ar hugain, buwyd yn cario miloedd o dunelli o gynnwys hen domennydd frwbel Chwarel yr Eifl i dirlenwi ac adeiladu ffyrdd etc.