Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:48, 11 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd yr Eglwys hwn rhwng 1480 a 1486, ac adeiladwyd adrannau eraill ohono rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae rhannau eraill o’r Eglwys yn dyddio i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac hefyd i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae gan yr Eglwys hefyd groglen sy’n dyddio o 1531, a pulpud sy’n dyddio o gwmpas 1700. Mae seddau côr hefyd yno sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif.

Credir i’r Eglwys ei sefydlu gan Beuno Sant o gwmpas 630, ac iddo fod wedi sefydlu eglwys a man dysgu Celtaidd ar fan y lle mae’r Eglwys yn sefyll heddiw. Mae’r Eglwys hefyd yn un o’r prif fannau ar hyd llwybr y pererinion i Enlli.

Ffynonellau

Cofnod o’r lle hwn ar wefan Treftadaeth Eryri.

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol