Elis Dafydd
Bardd a fagwyd yn Nhrefor yw Elis Dafydd, ac mae'n frawd iau i'r Prifardd Guto Dafydd. Fel ei frawd, dechreuodd Elis Dafydd ymhel â llenydda a barddoni yn ei arddegau, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi Chwilio am dân (Cyhoeddiadau Barddas) yn 2016. Fel ei frawd, graddiodd Elis Dafydd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor ac mae'n gwneud gwaith ymchwil am ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith y llenor John Rowlands. Yn ddiweddar fe'i penodwyd yn gyfieithydd gyda Chyngor Bwrdeisdref Conwy.